Amdanom ni

Helo! Croeso i Pili Pala, casgliad arbennig o gardiau cyfarch Cymraeg sydd wedi ysgubo’r DU (wel, y rhan Gymreig ohoni beth bynnag!).

Pili Pala ydym ni. Pili Pala ydy conffeti natur sy’n dod â hapusrwydd i bawb sy’n gweld un. Yn yr un modd, bydd cerdyn Pili Pala yn dod â hapusrwydd i unrhyw un fydd yn derbyn un.

Ein rhiant gwmni ydy Davora Ltd, sy’n arbenigo mewn cardiau cyfarch ar gyfer pob math o achlysuron, hyd yn oed yr achlysuron hynny mae cyhoeddwyr eraill yn ei chael yn anodd eu cyrraedd. Bu inni lansio brand Pili Pala yn 2015 gyda dim ond 30 dyluniad. Roedd y casgliad yn llwyddiant mawr ac rydym bellach wedi cyrraedd dros 100 o ddyluniadau.

Mae modd prynu cardiau Pili Pala mewn sawl siop gardiau annibynnol ar y Stryd Fawr yng Nghymru, yn ogystal â mewn rhai siopau mawr fel Clintons, Sainsbury’s a Tesco. Wrth gwrs fe allwch hefyd eu prynu yn uniongyrchol yma ar ein gwefan!

Mae ein holl gardiau yn Gymraeg gyda chyfieithiad Saesneg ar y cefn. Rydym yn defnyddio gliter a ffoil ac yn cerfio’r cardiau i orffen er mwyn iddynt sefyll allan.
Ar gyfer pob ymholiad masnachu, ewch i www.davora.cards.